Book of You Classic
Mae Book of You Classic yn parhau i fod y llwyfan perffaith i greu a rhannu stori eich bywyd gydag anwyliaid.
Book of You ClassicSuccess!
Error!




Defnyddio grym adrodd straeon i ddod â phobl a chymunedau at ei gilydd yw holl fwriad Book of You. Rydym yn rhannu straeon, sef defnyddio geiriau, lluniau, cerddoriaeth, ffilm a’r gair llafar i hybu dealltwriaeth, gwybodaeth ac empathi.
Mae Book of You, a sefydlwyd yn 2011, wedi’i gynllunio o amgylch llwyfan digidol hyblyg sy'n caniatáu adrodd straeon yn ei holl ffurfiau; o stori bywyd unigolyn i straeon a ellir eu rhannu o fewn cymuned. Yn 2020, cawsom gyllid gan y Gronfa Twf Busnesau Cymdeithasol, a reolir gan CGGC, i gyflogi staff ychwanegol yn ogystal ag ehangu sgiliau mewnol oedd o gymorth i ddatblygu’r busnes. Cefnogwyd y swyddi hyn gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru. Rydym yn parhau i dyfu ac arallgyfeirio ac yn 2023 dechreuwyd gweithio ar gynllun Care Home Buddy yn ogystal â’n cyrsiau hyfforddi pwrpasol.
Mae Book of You Classic yn parhau i fod y llwyfan perffaith i greu a rhannu stori eich bywyd gydag anwyliaid.
Book of You Classic
Gan ddefnyddio ein platfform Classic, gall cymunedau ddod ynghyd i adrodd stori eu grŵp, tref, treftadaeth, atgofion neu hyd yn oed hanes rheilffordd!
Community Books
Mae ein prosiect Care Home Buddy, pan mae gwirfoddolwyr yn ymweld â phreswylydd sydd angen ffrind am awr bob wythnos i gyfeillio a sgwrsio, yn cael ei ddefnyddio ar draws Gogledd Cymru ar hyn o bryd. Oes gennych chi awydd ymuno â ni a gwneud gwahaniaeth?
Care Home Buddy
Yn 2023 fe wnaethom gyflwyno ein cwrs hyfforddi mewnol cyntaf ‘Grym Adrodd Straeon i Unigolion â Dementia’ ar gyfer aelodau’r cyhoedd, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol. Yn dilyn ei lwyddiant, rydym ar hyn o bryd yn gweithio ar gyrsiau pellach a fydd yn mynd yn fyw yn 2024.
Training
Oes gennych chi ddiddordeb yn un o'n gwasanaethau neu awydd cefnogi'r hyn a wnawn? Cysylltwch â ni heddiw!
Contact