Success!
Error!
Cyflwynir y llyfr hwn i’r holl bobl anhygoel hynny, o’r gorffennol a’r presennol, sydd wedi gweithio mor galed yn y sector manwerthu yn Rhuthun.
Dyma’r ail lyfr digidol mewn cyfres o dri, sy’n rhan o Stori Rhuthun a grewyd gan Book of You ar y cyd â’r Hen Lys, gyda diolch i gyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri. Fe’i crewyd trwy gyfrwng chwe wythnos o gyfarfodydd Zoom ym mis Ebrill a mis Mai 2021 dan arweiniad E Dilwyn Jones, Swyddog Cyswllt Book of You, ar y cyd â Kate Harcus, Rheolwr yr Hen Lys. Rydym yn ddiolchgar iawn am eich holl gymorth a’ch cyfraniadau.
Roedd Ruthin Wholefoods yn siop cigydd am nifer o flynyddoedd.
Pan oedd yn siop cigydd roedd dan ofal ‘Wil Bach Bach’, un o lawer o lysenwau perchnogion siopau yn Rhuthun a’r hawsaf i’w esbonio, o bosibl – enw ei daid oedd Wil a’i dad hefyd, felly roedd ei dad yn cael ei alw’n Wil Bach a phan gafodd yntau ei alw’n Wil roedd rhaid iddo fod yn Wil Bach Bach.
J & P Williams – staff cynnar
Erbyn yr adeg roedd tad Dilwyn Jones, Arfon Jones, yn gweithio yn y siop yn niwedd yr 1960au a Dilwyn yn ei helpu ar ddydd Sadwrn nid oedd y becws y lle glanaf gyda thrapiau llygod mawr yn cynnwys llygod maint cathod! Mae Dilwyn yn cofio aros am ei dad wrth ddrws cefn y siop a gweld un o gydweithwyr ei dad yn dod o’r becws gyda hambwrdd mawr o fara newydd ei bobi. Wrth iddo gerdded fe faglodd ac syrthiodd y torthau oddi ar y hambwrdd a glanio yn y gymysgedd o betrol, olew a charthion llygod mawr yn yr iard. Y cwbl a wnaeth oedd eu codi a’u rhoi ar yr hambwrdd eto a dal i fynd tuag at y siop, gan oedi yn unig i wincio ar Dilwyn gegrwth saith oed a dweud “Yr hyn nad yw’r llygad yn ei weld, ni fydd yn fwrn ar y galon.” Dim Iechyd a Diogelwch bryd hynny!
Siop J & P Williams – Mae’r bont rheilffordd yn parhau’n weladwy yn y llun
Yr hyn sydd bellach yn oriel siopa fechan islaw Capel Pendref ym mhen uchaf Stryd y Ffynnon.
Yma mae’n parhau i fod y Cross Keys, y prif westy yn Rhuthun yn ei gyfnod yn ôl atgofion Gareth Evans.
Daeth y Manor House gerllaw yn westy yn ddiweddarach a bu dan ofal Cynthia Lennon, gwraig gyntaf John Lennon, am gyfnod. Cyn hynny roedd yn gartref y doctoriaid Trevor ac Enid Hughes.
Roedd Siop Nain, sy’n siop anrhegion a chardiau yn awr, yn gaffi hefyd am sawl blwyddyn. Cafodd anthem genedlaethol Cymru ei chyhoeddi am y tro cyntaf mewn adeilad yn y cefn, sy’n fwthyn gwyliau erbyn hyn.
Dyma’r gornel ym mhen uchaf Stryd y Ffynnon. Bu’n gartref i lawer o fusnesau dros y blynyddoedd yn cynnwys ‘Italian Warehouseman’s’ (fel y dangosir ar y dde).
9 Stryd y Ffynnon, roedd siop gacennau ar y llawr gwaelod a chaffi i fyny’r grisiau am sawl blwyddyn. Arferai’r byns i Ysgol Brynhyfryd gael eu cynhyrchu yno ac roedd rhai yn cofio cael eu hufen iâ Knickerbocker cyntaf erioed wrth y bwrdd yn y ffenestr i fyny’r grisiau.
Dangosir Tesco yma hanner ffordd i lawr Stryd y Ffynnon, pan arferai archfarchnadoedd fod ar strydoedd y dref.
27 Stryd y Ffynnon. Roedd gan nifer o aelodau’r grŵp atgofion melys am Gwen ac maen nhw’n dal i alw’r siop yma – Corwen Carpets erbyn hyn – yn siop Gwen. Roedd hi’n gwisgo yn steil ‘byddin y tir’ gyda phensil y tu ôl i’w chlust bob amser. Roedd y drws ar gau ar ochr dde’r llun yn arwain i leoliad swyddfa wreiddiol Gwasg Gee cyn i’r cwmni symud i’w safle mwy adnabyddus yn Ninbych.
The Gift Fair wedi’i leoli yn mhen isaf Stryd y Ffynnon, y Steakhouse yn ddiweddarach a chaffi erbyn hyn. Gellir gweld Leamington Stores drws nesaf yn y llun hwn.
The Machine wedi’i leoli ar yr A525 wrth ymyl y gyffordd i Stryd y Rhos. Roedd y siop yn un fframio lluniau tan yn ddiweddar. Cyn hynny bu’n siop ffrwythau a llysiau am sawl blwyddyn a chredir iddi gael yr enw gan fod peiriant pwyso wedi’i leoli wrth y safle.
Mae Gareth Evans yn cofio cael swydd yn ystod gwyliau’r haf yma pan oedd y siop dan ofal Ted Salisbury ac roedd yn cynnwys danfon gwerth wythnos o nwyddau ar feic y siop i’r Mount ar y ffordd tuag at Fontuchel a Chyffylliog – dipyn o dasg ar gefn beic!
Siop Elfair ger 18 Stryd Clwyd. Hon oedd y siop Gymraeg dan ofal G Trebor Hughes yn flaenorol. Roedd ei hysbysebion yn datgan nad oedd ymweliad â thref hanesyddol Rhuthun yn gyflawn heb ymweld â’i siop. Roedd yn gwerthu popeth Cymreig a mwy. Roedd gan Trebor Hughes fan ar un adeg hefyd, a oedd yn cynnwys detholiad o stoc i’w werthu yn y pentrefi cyfagos.
Roedd Siop Trefor Jones a ddangosir yma, ar Stryd Clwyd, yn siop haearnwerthwr unwaith fel y dangosir yn y llun uchaf.
The Salon erbyn hyn. Yn ddiweddarach gwnaeth "Hughes y Garddwr", a oedd yn cadw siop ffrwythau a llysiau, adeiladu ei fyngalo ar gyfer ei ymddeoliad yn y gerddi y tu cefn i’r siop, sef y preswylfod trawiadol sydd i’w weld nesaf at Min yr Afon oddi ar Heol y Parc.
Siop Evans Men's Outfitters ar ben uchaf Stryd Clwyd. Sylwch bod adeilad banc Barclays yn wahanol.
West Bromwich yn siop cynghorydd ariannol yn awr a Manweb, ger pen uchaf Stryd Clwyd.
5-7 Stryd Clwyd, edrychwch ar y gwahaniaeth o ran yr adeilad ond mae’n parhau’n siop bapurau newydd ar ôl yr holl flynyddoedd.
Siop groser David Owen – roedd y siop ar safle cofeb y gyrrwr rasio Tom Pryce yn awr
Bil nwy yn Rhuthun yn 1948
BVC Services yn ôl atgofion Edwina Stephen
Bee Hive, Owen's Cafe ac Aldrich's News. Cafodd y Bee Hive yr enw gan ei berchennog gwreiddiol er mwyn creu’r argraff ymhlith y cyhoedd lleol ei bod yn siop hynod o brysur.
Gail’s Café ar Stryd Clwyd Uchaf, Aldrich’s News yn flaenorol. Mae gan Gail gysylltiad maith â’r adeilad hwn gan fod tad ac ewythr Gail wedi ennill y contract i wneud gwaith adnewyddu yno flynyddoedd yn ôl, fel y dangosir yn y llun uchod
Blodau rhagorol, a’r cyfan am ychydig dros bum punt yn 1947!
Llew oedd perchennog y siop pysgod a sglodion ar Stryd Clwyd yn yr 1950au
Mae’n parhau’n siop pysgod a sglodion, ond pryd ar glud yn unig yn awr. Pan dynnwyd y llun hwn roedd yn fwyty hefyd.
Rhoda's sydd yn dŷ erbyn hyn ond fel y gwelwch mae’r ffenestr siop wreiddiol dal yno.
Siop trin gwallt boblogaidd iawn Tommy's erbyn hyn. Fodd bynnag, mae’r arwydd carreg yn parhau i ddangos "Mill Stores", yr enw gafodd yr adeilad pan oedd yn gangen o siopau groser E B Jones. Nid oedd yn eglwys gatholig erioed ond gosodwyd y cerflun crefyddol ar frig yr adeilad yno i fodloni gwraig yr adeiladwr, a oedd yn Babyddes.
E B Jones Grocers, Cangen Rhuthun. Fe wnaeth nifer a ddaeth i Rhuthn fel rheolwyr y siop yma fynd ati i agor eu siopau eu hunain yn y dref, yn cynnwys David Owen, Ted Salisbury a Hywel F Lewis.
Roedd Aldrich's yn siop boblogaidd iawn yn ei chyfnod. Roedd yr adeilad hwn yn lys yn wreiddiol a bellach mae’n ganolfan ddinesig, cymunedol a chanolfan i ymwelwyr.
Yr Hen Lys yn niwedd yr 1960au
Tystiolaeth o oedran Barclays ar Sgwâr Sant Pedr. Siop ddillad Hepworths.Diwedd y 1920au
Cornel uchaf Stryd Clwyd cyn cynnal gwaith adnewyddu.
Sarita’s Cafe mewn lliw godidog.
Mae’r adeilad a oedd yn cael ei adnabod fel safle optegydd Alton Murphy tan yn ddiweddar yn cael ei gofio fel siop ffotograffydd Elsa Frischer gan lawer. Yn wreiddiol roedd dan ofal Leo, a enwodd y busnes ar ôl ei wraig, ac yn ddiweddarach Ann, merch y diweddar Barchedig John Evans, Cyffylliog. Mae Ann yn cael ei chofio fel ffotograffydd medrus a manwl a oedd yn cael canlyniadau ardderchog bob amser. Fodd bynnag, roedd y gofal a’r manylder yn gwylltio’r gwestai a oedd yn cynnal y neithior ac arweiniodd hyn at ei gwahardd fel ffotograffydd ar un cyfnod yng Nghastell Rhuthun, dan gyfarwyddyd Franco Marques.
Yn ddiweddarach roedd Ellis Williams yn y siop nesaf at yr hen Alton Murphy ar y Sgwâr – edrychwch ar y llun blaenorol – ond mae hwn pan oedd yn safle Castle Bell erbyn hyn ar Stryd Clwyd.
Adeiladwyd y Swyddfa Bost oddeutu diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif
Siop Groser Littler & Williams, lle mae’r swyddfa bost erbyn heddiw. Aeth y siop ar dân gyda degau, os nad cannoedd, o lygod mawr yn dianc o seleri’r siop i lawr Stryd y Prior.
Mae pobl yn parhau i gyfeirio at "State of Distress" fel yr hen siop win ond mae’r bar llaeth yn parhau i fod yn hynny, er ei fod yn fwy o gaffi cyffredinol erbyn hyn.
Mae’r seler o dan State of Distress yn hynod ac yn fawr, gan ymestyn o dan y Sgwâr.
Roedd gan nifer o’r grŵp atgofion melys am y Bar Llaeth fel y man cyfarfod perffaith (a chwbl sobor) i bobl ifanc yr ardal yn y 50au a’r 60au pan oedd yn cynnwys yr unig jiwcbocs yn y dref.
Llun 140 oed o un o adeiladau mwyaf adnabyddus Rhuthun, sydd bellach yn far jin yn rhannol ac yn gartref siop dillad merched Vanity Fayre yn flaenorol.
Lle saif HSBC yn awr
Llun yn dyddio o 1936 a oedd hefyd yn flwyddyn y coroni. Nodwch mai dim ond 20 yw’r rhif ffôn ar y fan.
Siop Clubbe ar Stryd Mwrog. Enghraifft wych o sut roedd pobl yn arfer troi eu hystafell ffrynt yn siop. Dim angen caniatâd cynllunio na newid i dalu ardrethi busnes bryd hynny.
Roedd y siop a Johnnie Turf yn cael eu cofio’n rheolaidd yn ystod y sesiynau. Nid yw’r siop yno mwyach! Serch hynny, os ydych chi’n edrych yn ofalus ar y gwaith brics fe welwch wahaniaeth yn lliw’r brics yn ganolog a lle’r arferai fod. Roedd Gareth Evans ac Anne Roberts yn cofio’r lle fel man a oedd yn casglu parseli gan y bysiau a oedd yn arfer stopio gerllaw ac roedd Morfudd Jones yn ei gofio fel siop fferins boblogaidd ymhlith plant ysgol. Roedd hefyd yn gweithredu fel swyddfa docynnau ar gyfer digwyddiadau yn neuadd y dref yn yr adeilad drws nesaf.
Yr hen Borthyn Stores – cangen o J & P Williams. Roedd Borthyn Stores, siop groser William Morris yn wreiddiol, dan berchnogaeth J & P Williams ac roedd yn un o’r llu o siopau groser yn Rhuthun yn cynnwys siop Lewis yn Borthyn, Duke’s ar Stryd Mwrog, E B Jones, Eagle Stores, Tŷ Coch Grocery, Leamington Stores a W R Owen a’r Ship, Star Shop ar Stryd y Castell, Gwalia Stores, Marina's, Irwins a Dew's..... – yn ogystal â J & P Williams a Borthyn Stores. Roedd gan y grŵp atgofion cynnes iawn am y siopau hyn, yn y cyfnod cyn archfarchnadoedd.
Dymchwel Borthyn Stores – popeth yn newid yn y 70au
Y staff y tu allan yn y 1970au
Cipolwg ar wahanol rannau o Rhuthun dros y blynyddoedd.
Diolch yn fawr iawn i bawb a gyfrannodd:
Jean Campbell Leith
Peter Daniels
Kathy Daniels
Ceris Edwards
Roger Edwards
Gareth Evans
Gill Griffiths
Anthony Jeffrey
Y Cynghorydd Morfudd Jones
Julie Masters
Y Cynghorydd Anne Roberts MBE
Edwina Stephen
Y Cynghorydd Emrys Wynne
Cwmni Budd Cymunedol ‘Book of You’: E Dilwyn Jones
Rheolwr yr Hen Lys: Kate Harcus