Success!
Error!
Mae'r llyfr hwn wedi'i gyflwyno i drigolion Rhuthun sy'n cofio ac a oedd yn caru eu rheilffordd.
Mae’r llyfr hwn wedi’i greu diolch i gyllid gan Gymdeithas Ddinesig Rhuthun a’r Cylch, Cronfa Fferm Wynt Coedwig Clocaenog, Cyngor Tref Rhuthun, Cyngor Sir Ddinbych a Chronfa Dreftadaeth Cadw.
Agorwyd Gorsaf Reilffordd Rhuthun ar Fawrth 1af 1862 a chaeodd i deithwyr ym 1962. Er ein bod yn cydnabod hanes pwysig yr orsaf yn y llyfr hwn, yn bennaf atgofion y rhai a deithiodd arni neu a fu’n byw wrthi sydd ynddo.
Gyda diolch i Vernon Hughes
Yn wreiddiol, safai Gorsaf Rhuthun lle mae Cylchfan Brieg ar hyn o bryd, ac fel y gwelir yn y mapiau dros y tudalennau nesaf, mae llwybr y ffyrdd yno (ac yn wir yn y rhan fwyaf o'r dref) bellach wedi newid yn llwyr.
Mae Vernon ac Arnold Hughes, sy’n byw yn Rhuthun, yn feibion i’r orsaf feistr olaf, sef William Glynne Hughes (llun ar y chwith). Daethant i Ruthun ym 1955 a symud i fyw i dŷ'r orsaf. Mae Vernon yn cofio mai un o fanteision byw yma oedd eu bod yn gallu teithio’n rhatach ar y trenau. Mae hefyd yn cofio gwyliau lle arhosodd y teulu mewn cerbyd rheilffordd, rhywle o gwmpas arfordir de Lloegr.
Mae Doris, gwraig Vernon, yn cofio fod adeilad yr Orsaf yn oer iawn, yn enwedig yr ystafell ymolchi!
Lluniau teuluol gan Vernon Hughes o’r blynyddoedd pan oedd yn byw yn Nhŷ’r Orsaf.
Map a luniwyd gan Brian W Williams 20 Gorffennaf 2012, yn dangos lleoliad y rheilffordd yn Rhuthun, yn seiliedig ar Daflen OS Sir Ddinbych 1912
Gyda diolch i Brian W Williams
Y Signalwr R Williams gyda chydweithiwr dienw ym mlwch signal Rhuthun. 2. Gorsaf Rhuthun 1949. 3. Gorsaf Rhuthun 1933 (o ‘Railways Along the Clwyd Valley Corwen to Rhyl’ gan W. G. Rear)
Mae Anne Roberts yn cofio ei thad yn dod adref o’r rhyfel ar y trên. Roedd hi i fod i’w gyfarfod yng Ngorsaf Rhuthun ond yn anffodus, roedd y trên yn hwyr felly, gan mai dim ond dwy a hanner oedd hi ar y pryd, bu’n rhaid iddi fynd adref i’r gwely. Pan gyrhaeddodd ei thad adref yn y diwedd am 10 yr hwyr, cafodd ei galw i lawr i'w gyfarfod, ond yn lle ei thad, o'i blaen gwelodd ddieithryn a siaradai iaith ryfedd (sef Saesneg - Cymraeg oedd Anne a'i mam yn siarad â’i gilydd). Dechreuodd Anne grio gan nad oedd yn ei adnabod a'i bod wedi dychryn!
Cafodd Doris Hughes brofiad tebyg hefyd pan ddychwelodd ei thad hithau adref ar ôl y rhyfel. Pedair a hanner oed oedd hi bryd hynny ac iddi hi, dieithryn brawychus oedd y dyn wnaeth ymddangos yn sydyn ganol nos.
Carcharwyd Taid Lavinia Williams, Mr Glyn Griffiths (llun ar y chwith), yn ystod yr Ail Ryfel Byd yn Stalag 4B yn Leipzig, yr Almaen. Ar ôl cael ei ryddhau o Ddwyrain yr Almaen cafodd ei roi ar drên a’i anfon yn ôl i'r DU. Wedi cyrraedd Gorsaf Rhuthun, aeth y Gweinidog lleol, Mr O J Evans, i’w gyfarfod a mynd a fo adref.
Wedi diwedd y rhyfel, symudodd rhai carcharorion rhyfel Almaenig i Ruthun i fyw ac mae eu teuluoedd yn dal yno.
Mae Brian W Williams yn cofio mai’r tro cyntaf iddo weld Rheilffordd a Gorsaf Rhuthun oedd pan gyrhaeddodd ei dad, ei fam ac yntau yno ar y trên ar y 4ydd o Ionawr 1944. Roeddent yn mynd i weld y lle fyddai’n gartref newydd iddynt, - tyddyn bach o’r enw Lodge Isaf, tua hanner ffordd rhwng Rhuthun a Cherrig-y-Drudion.
Mae John Roberts yn cofio pan oedd yn 4 neu 5 oed, iddo ddal y trên o Ruthun i Dderwen ar Ŵyl San Steffan i ymweld â’i fodryb a’i ewythr. Wedi gadael Gorsaf Derwen, fe wnaethant groesi’r bont reilffordd oedd yn mynd dros yr afon, a chawsant weld yr eog yn llamu dros y creigiau ar eu ffordd i silio ymhellach i fyny’r afon i gyfeiriad Hiraethog. Roedd ei ewythr, fel llawer o rai eraill ledled y wlad, yn rhentu darn o dir gan y rheilffordd ac yn tyfu amrywiaeth o lysiau a blodau ynddo.
Mae hefyd yn cofio un achlysur wrth deithio’n ôl ar y trên o Dderwen, i Tom Porter y Giard ofyn “fyddai’r hogyn bach yn hoffi gweld yr injan?” Mae John yn cofio cael ei godi ar y plât troed a gweld y llewyrch, y gwres a’r tân yn rhuo’n fwy dramatig fyth gan ei bod yn dywyll iawn (roedd blacowt y rhyfel yn dal mewn grym).
Mae hefyd yn cofio ei dad yn mynd a fo o Ruthun i ben yr Wyddfa ar y trên, ac un diwrnod daeth John a ffrind o Ysgol Borthyn i'r orsaf i wylio’r injans yn cael eu siyntio, a chael eu cosbi am fod yn hwyr yn ôl i’r ysgol o’r herwydd.
Mae John Roberts yn cofio bod yn rhaid i ffermwyr dyfu cwota o rawnfwydydd amrywiol, fel gwenith, haidd a cheirch yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ac yna'n gorfod gwerthu cyfran benodol o'r cnwd i'r llywodraeth. Byddai ei dad, ynghyd â ffermwyr eraill, yn mynd â'r ŷd fel arfer gyda cheffyl a chert i'r orsaf i'w bwyso a'i wirio, cyn iddo gael ei anfon i ben y daith ar y trên. Cludwyd pren hefyd i'r orsaf ar lori a'i anfon ar drên i byllau glo De Cymru ac ardaloedd eraill i'w ddefnyddio fel postiau pwll glo. Roedd yn rhaid i ffermwyr ddal yn dynn wrth eu ceffylau ofnus pan oedd y trenau'n chwibanu neu'n chwythu stêm oedd dros ben. Yr oedd hyn yn wir pan arferai ei dad ymweld â Felin Einion, ger Pwllglas, ar gyfer malu’r ŷd.
Byddai rhai o’r ffermydd mawr yn llogi trên arbennig i symud eu hanifeiliaid.
Ar un adeg, rhannwyd yr Ysgol Ramadeg gydag ysgol y bechgyn yn Ninbych a'r merched yn Rhuthun. Roedd ysgol y merched lle mae’r tŷ bychan ym Mrynhyfryd heddiw. Mae Roger Edwards yn cofio bod llythyrau caru yn aml yn cael eu pasio rhwng cerbydau trên wrth fynd heibio.
Mae John Roberts yn cofio bod nifer o ddisgyblion o ardaloedd Eyarth, Nantclwyd, Derwen a Gwyddelwern yn teithio yn ôl ac ymlaen i’r ysgol ar y trên, gan gyrraedd Rhuthun am 8.40yb a mynd adref ar drên 4 o’r gloch. Un o'r rhain oedd Eric Jones, y dringwr enwog.
Pan oedd John yn fachgen ifanc yn byw yn Galchog, Llanfwrog, fe ddysgodd os oedd y gwynt yn chwythu i'r cyfeiriad iawn, ei fod yn gallu clywed hynt y trên boreol yn rhuo dros Bont Nant Clwyd. Roedd yn gwybod adeg honno ei bod yn bryd iddo gychwyn ar ei feic i’r ysgol.
Atgof arall sydd gan John yw peth blynyddoedd yn ddiweddarach pan oedd yn ddisgybl yn Ysgol Brynhyfryd a byddai weithiau'n cwrdd â'i fam yng Ngorsaf Rhuthun ar ôl ysgol ac yn dal trên 4 o'r gloch i Dderwen, gan ddychwelyd ar drên 7 o'r gloch.
Mae Brian W Williams yn cofio pan oedd yn mynd i’r Ysgol Ramadeg ym Mrynhyfryd yn Rhuthun, y byddai’r bws ysgol yn stopio y tu allan i'r Orsaf Reilffordd lle byddai ef a disgyblion eraill yn dod oddi arno, yn croesi pont y rheilffordd ac yn cerdded i fyny Jumbo Hill i gyrraedd yr ysgol. Parhaodd hyn am dair blynedd, o 1949 i 1952.
Arferai preswylydd lleol, Mr Arthur Williams, anfon ei gi, Mot, o'i gartref i'r orsaf i gasglu papur pob bore gan eu bod yn cyrraedd yn gynnar ar y trên. Byddai staff Gorsaf Rhuthun yn rhoi'r papur newydd i Mot gan staff Gorsaf Rhuthun, a byddai Mot wedyn yn dod a fo adref, wedi'i glymu mewn rholyn wrth linyn. Roedd cryn dipyn o drigolion yn cofio hyn.
Rhedai trên y 'Land Cruise' ar draws Cymru gyfan am ddeng mlynedd, gan gychwyn ym 1951. Roedd yn gadael tair neu bedair gwaith yr wythnos, a chafwyd sylwebaeth am yr ardal arni. Gallai teithwyr ymlacio, gwrando a mwynhau paned o de neu goffi yn ystod y daith. Teithiai’r trên i fyny Dyffryn Clwyd, gan godi teithwyr yn y prif orsafoedd cyn ymuno â'r lein o Riwabon i’r Bermo ac yna drwy Borthmadog, Cricieth, Afonwen, Caernarfon, Bangor ac ar hyd arfordir Gogledd Cymru. Byddai egwyl o ddwy awr yn y Bermo. Mae aelodau'r grŵp yn cofio teithio o Ruthun i'r Wyddfa, y Rhyl a Llandudno.
Mae gan Valerie Langford Jones atgofion hapus iawn o fynd ar y Land Cruise gyda'i Modryb.
Mae trigolion hefyd yn cofio mynd ar dripiau o Ysgolion Borthyn a Stryd y Rhos i weld y ‘Great Exhibition’ yn Llundain, ac am y tripiau Ysgol Sul poblogaidd, fel arfer i’r Rhyl (mwy am y rhain yn ddiweddarach yn y llyfr). Mae rhai yn cofio'r cyffro o fynd i Lerpwl i weld Ken Dodd yn y pantomeim Nadolig.
Roedd llawer o bobl Rhuthun yn arfer dal y trên i'r Rhyl i fynd i’w gwaith. Fel Anne Roberts, oedd yn gweithio yn Woolworths y Rhyl. Collodd llawer o bobl eu swyddi pan gaeodd yr orsaf gan mai ychydig iawn oedd yn berchen ar geir bryd hynny.
Ym 1954 gallech brynu tocyn rhedeg am bedwar diwrnod am 16 swllt a mynd o amgylch Gogledd Cymru, ond mae Roger Edwards yn cofio mai dim ond cyn belled â’r Rhyl yr aeth y rhan fwyaf o bob oherwydd bod y daith yno’n cymryd awr a hanner. Mae John Roberts yn cofio bod ei dad, David Henry Roberts, wedi dweud ei fod bob amser yn gwybod pryd oedd pobl Corwen a’r Bala yn mynd am ddiwrnod i’r Rhyl gan y byddai yna ddwy injan Great Western i daclo’r llethrau serth o Ruthun a Derwen i Graig Lelo Wernddu.
Ym 1951 trefnwyd trip i ddisgyblion Ysgol Ramadeg Brynhyfryd ymweld â’r ‘Festival of Britain’ ar Lan Ddeheuol yr Afon Tafwys. Roedd Brian W Williams yn un o’r disgyblion a aeth yno, fel yr oedd Doris Hughes. Mae Brian yn cofio bod yn rhaid iddo fod yn yr orsaf am 5.30 y bore gan y byddai’n daith hir iawn. Stopiodd y trên yn Ninbych hefyd i godi disgyblion o Ysgol Ramadeg Dinbych, ac o’r diwedd cyrhaeddodd y trên Orsaf Euston yn Llundain am 11y bore. Ni allai Brian gofio faint o'r gloch y bu'n rhaid iddynt fod yn ôl yn Euston ar gyfer y daith adref, ond roedd yn credu ei bod ar ôl hanner nos pan gyrhaeddodd yn ôl yn Rhuthun.
Roedd y rhan fwyaf o bobl yn cofio'r tripiau Ysgol Sul a’r ffaith mai ym 1957 oedd y daith arbennig olaf. Ar ddiwrnod trip Ysgol Sul, fel arfer y trydydd dydd Iau ym mis Mehefin, byddai holl ysgolion a siopau Rhuthun yn cau am y diwrnod, ac weithiau byddai yna drên arbennig yn cael ei neilltuo i fynd i'r Rhyl. Roedd Valerie Langford Jones yn cofio mynd ar drip Ysgol Sul Capel Bethania i’r Rhyl. Mae hi hefyd yn cofio cymryd rhifau’r trenau a mynd i ddal y bws i Ddinbych, a rhywbeth wedi taro’r bont un bore.
Roedd Brian W Williams yn cofio fod yna linell gangen yn arwain i'r chwarel galchfaen rhwng Rhuthun a Rhewl tua chwarter milltir i lawr ar y rheilffordd o Ruthun i Ddinbych. Roedd y llinell gangen hon yn croesi'r ffordd rhwng Rhuthun a Dinbych (yr A525) ac nid oedd yn cael ei defnyddio gan y trenau teithwyr ar y brif reilffordd gan nad oedd y trac yn safonol. Roedd yn cael ei wasanaethu gan locomotif math tractor (llun ar y chwith) a oedd fel arfer yn dod ag un neu ddau o dryciau a oedd wedi'u siyntio i'r gangen i'r chwarel. Mae John Roberts yn cofio iddo glywed bod y chwarel yn wreiddiol wedi defnyddio locomotif stêm gyda boiler fertigol, ond fe'i disodlwyd yn y 1930au gyda'r siyntiwr disel a ddefnyddiwyd hyd nes i'r chwarel gau ym 1962. Pan nad oedd y siyntiwr disel yn gweithio, byddai injan stêm nwyddau ysgafn y Rheilffyrdd Prydeinig yn dod i fyny’r chwarel, gan groesi’r ffordd yn agos i le mae Rhuthun PreCast Concrete heddiw.
Roedd y tryciau’n llawn o galch wedi'i brosesu o'r calchfaen yn y chwarel. Aed â rhai o'r cerrig i Waith Dur John Summers ym Mhont Penarlâg. Gorchuddiwyd y tryciau â tharpolinau a byddent yn cael eu shiyntio i lawr ger y lein rhwng Rhuthun a Dinbych ac yna eu cysylltu â thrên stêm a'u cludo i'r lle’r oeddynt i fod.
Injan y gwaith a’r criw – llun gan Moira Roberts
Mae John Roberts yn cofio mai un o'r signalwyr oedd Mr Curtis, dyn tal gyda gwallt gwyn, tonnog. Ychydig funudau cyn i'r trên gyrraedd, byddai'n croesi o'r blwch signal ac yn sefyll ar y platfform gyda'i ffon o dan ei fraich. Bu hefyd yn weithgar iawn gydag Ambiwlans Sant Ioan.
Roedd timau cynnal a chadw, a elwir yn ‘gangers’ a ‘plate-layers’, yn gweithredu o Ruthun. Un o'r rhain oedd Charles Hughes, a oedd hefyd yn ofalwr ar Gapel y Tabernacl. Roedd yn daid i Barbara Hughes (Barbara Birch yn ddiweddarach) a fu'n gweithio yng nghangen Rhuthun o Fanc Barclays am flynyddoedd lawer. Dau enw arall mae pobol yn dal i’w cofio oedd Iorrie Foulkes, a Goronwy Morris o Fron Haul, Llanfwrog, a oedd yn danwyr ar y trenau. Mae Moira Roberts yn cofio Ted Roberts oedd yn dad i Eddie Roberts y Barbwr, yn borter ac roedd 'Yncl Bob' yna hefyd ond gyda swydd ‘uwch’ na phorter, er nad ydi'n siŵr beth yn union oedd ei waith o.
Roedd Tecwyn Roberts (lori yn y llun ar y chwith) yn rhedeg ei fusnes cludo o'r orsaf i ddechrau cyn symud i lle mae B&M erbyn heddiw. Cofiai Anne Roberts am y dynion yn llwytho a dadlwytho tuniau anferth. Y ddau ddyn yn y llun ydi John Morris a Frankie Roberts. (Llun gan Moira Roberts).
Gallai gweithio ar y rheilffordd fod yn beryglus, yn enwedig i'r rhai oedd yn siyntio'r tryciau. Byddai'r dynion yn rhedeg ochr yn ochr â'r tryciau tra’r oedd y rheini’n ffri-wilio, ac yn gosod y brêc i ddod â nhw i stop rheoledig. Ac roedd yna wastad y perygl o faglu dros y sliperi a syrthio o dan yr olwynion. Digwyddodd hyn i Bob Hughes, a gollodd rhan isaf ei ddwy goes, ond a oroesodd rywsut.
Unwaith, ar ddiwedd y 1940au neu ddechrau’r 1950au, gadawyd wagenni yng Ngorsaf Derwen heb eu breciau ymlaen yn iawn, a’r canlyniad fu iddynt redeg i lawr yr allt drwy’r holl orsafoedd, cyn dod i stop ar dir gwastad yn Llanrhaeadr.
Bu farw taniwr ar drên rhwng Rhuthun a Chorwen pan ddringodd ar dendr y locomotif i dynnu’r glo ymlaen wrth i’r trên fynd o dan Bont Ffynogion ger Eyarth. Digwyddodd damwain arall pan oedd lori sbwriel ar y groesfan reilffordd ym mhen gogleddol yr orsaf. Tarodd trên i gefn y lori. Yn ffodus ni chafodd unrhyw un ei anafu, dim ond cael eu hysgwyd yn ddrwg.
Ym 1955, fe ddisgynnodd awyren o’r Awyrlu Brenhinol oedd yn hyfforddi gyda'r nos i faes ŷd ger y rheilffordd ym Min y Clwyd, gan ladd y peilot.
Mae John Roberts hefyd yn cofio Robert Evans a oedd yn borter yng Ngorsaf Rhuthun ac hefyd yn ffrind i'w rieni. Roedd ganddo lawer o straeon difyr i'w hadrodd am weithio ar reilffyrdd mewn gwahanol leoliadau a dywedodd iddo weithio ar drenau ysbyty yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, gan gludo milwyr wedi'u hanafu i Bortiwgal. Soniodd wrth John hefyd am y tro pan ddaeth locomotif oddi ar y cledrau yn yr orsaf. Yn ddiweddarach, ar ôl 1955, pan oedd trenau teithwyr yn rhedeg rhwng Caer, yr Wyddgrug a Rhuthun yn unig, byddai'r locomotifau'n cael eu gwahanu oddi wrth y cerbydau ac aed a hwy i'r hafnau yn Railway Terrace. Ar ôl pasio'r pwyntiau, byddai'r gyrrwr yn chwythu'r chwiban i adael i'r dyn signal wybod i newid y pwyntiau drosodd, fel y gallent fynd ymlaen i'r trac arall, rhedeg rownd y trên a bachu yn y pen arall, yn barod ar gyfer y daith yn ôl i Ddinbych. Un bore tywyll o aeaf, mae’n debyg y bu camddealltwriaeth rhwng criw y trên a'r signalwr, a dyna pam ddaeth y locomotif oddi ar y cledrau. Bu'n rhaid i bawb a oedd yn gysylltiedig fynd i Crewe ar gyfer ymholiad!
Mae John Roberts yn cofio mynd ar daith gyda’r W.E.A. i’r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, dan arweiniad Bleddyn Lloyd Griffith, - prifathro Ysgol Ramadeg Sirol Brynhyfryd, fel y’i gelwid bryd hynny. Mai 1950 oedd hi a Bob Hughes (y gweithiwr rheilffordd a gollodd ei ddwy goes, a sonnir amdano ar y dudalen flaenorol) yn cael ei gario i fyny grisiau'r llyfrgell gan dad John, David Henry Roberts a G. R. Richards o'r Hafod. Wrth gwrs, nid oedd mynediad arbenig i bobl anabl yn y dyddiau hynny. Roedd gan Bob Hughes ddau frawd oedd hefyd yn gweithio i'r rheilffordd yn Nyffryn Clwyd - roedd Goronwy Hughes (neu Goronwy Graig) yn glerc yn yr adran nwyddau a William Owain Hughes yn signalwr yn Ninbych. Ar y daith honno prynodd tad John lyfr iddo, ‘The World’s Railways and How They Work’, ac mae’n bendant mai yma y dechreuodd ei ddiddordeb mewn rheilffyrdd.
Peintiad o drên stêm olaf y dydd yng Ngorsaf Rhuthun gan Derek Roberts.
Atgof arall gan Brian W Williams yw o'r bont wreiddiol dros yr afon yn Ffordd y Parc (yr A494 bellach) yn y 1960au. Adeiladwyd y bont bresennol yn ei lle. Roedd yr hen bont yn gul gyda lled y ffordd tua 9 troedfedd a throedffyrdd bob ochr tua 1'6'' i 2' o led. Roedd ochrau'r bont yn cynnwys darnau fertigol o ddur tua 6' ar wahân a 7' o uchder. Roedd tiwbiau dur yn cysylltu'r adrannau hyn o'r brig i lawr bob 2'. Mae Brian yn cofio iddo weld pontydd rheilffordd eraill tebyg i'r un yn Rhuthun ac mae’n meddwl fod y bont hon wedi’i hadeiladu ar gyfer cario llwybr gwreiddiol y rheilffordd o Ruthun i Gorwen. Gwesty’r Park Place fyddai’r "Station Hotel" gyda bythynnod gweithwyr rheilffordd yn Ffordd y Parc. Mae'n hysbys bellach bod y rheilffordd wedi'i hailgyfeirio yn dilyn gwrthwynebiad gan berchnogion Castell Rhuthun, oherwydd y byddent yn gallu gweld y rheilffordd wrth iddi fynd trwy ardal Cae Ddol/Lôn Fawr.
Mae yna hanes am fonheddwr yn teithio o Lundain i Ruthun ar y Trên i weld Mrs Cornwallis-West (Patsy). Gadawodd y person dan sylw'r trên yn Rhewl a theithio i Gastell Rhuthun mewn coets gyda'r llenni wedi eu tynnu. Roedd sïon ar led mai Edward VII ydoedd er bod rhai yn dweud mai preswylydd lleol oedd yn digwydd edrych yn debyg i’r Brenin oedd o!
Roedd rhai o’r grŵp yn cofio clywed am ladrad arfog a ddigwyddodd yn yr orsaf ym 1963. Ymddangosodd y stori yn y Free Press ar y pryd ond ni ellir dod o hyd i unrhyw beth ar-lein wrth ysgrifennu'r llyfr hwn. Cyrhaeddodd y lladron mewn car ar ddiwrnod cyflog staff yr orsaf, ond nid oes unrhyw wybodaeth bellach am y lladron, a gawsant eu dal ai pheidio, ac os y cawsant eu dal, beth fu eu dedfryd.
Dywed Brian W Williams fod ei ddiddordeb brwd yng Ngorsaf Reilffordd Rhuthun wedi parhau dros y blynyddoedd a bod ganddo gasgliad o ffotograffau, tocynnau rheilffordd, clip ffilm byr o’r orsaf pan oeddynt ar fin ei dymchwel, a ffotograffau yn dangos y gwaith dymchwel tra’r oedd yn digwydd (i gyd yn y llyfr hwn). O'r wybodaeth hon, mae wedi creu llun cyfrifiadurol o'r orsaf fel y mae'n ei chofio, sydd i'w weld ar y dudalen ganlynol.
Dywed John Roberts mai'r prif fathau o locomotifau stêm y mae'n eu cofio oedd y Johnson 2P Passenger Engines a oedd i'w gweld rhan amlaf yn tynnu’r trenau o Ddinbych i Gorwen, ac ar adegau'r Webb Coal Tank oedd yn llai. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf pan oedd trenau’n cario teithwyr rhwng Caer a Rhuthun gwelwyd injans stêm mwy modern, fel yr Injans Tanc Dosbarth 4 a adeiladwyd gan Reilffyrdd Prydain. Yn ystod dwy flynedd ddiwethaf y trenau nwyddau, cyn cau gorsaf Rhuthun, defnyddiwyd Peiriannau Dosbarth 5 Rheilffyrdd Prydain. Gellid adnabod y rhain gan fod y chwiban y tu ôl i'r simnai. Dywed John iddo gael gwybod gan yrrwr trên o’r enw Thomas Owen Jones (neu ToJo) fod Injans Dosbarth 2 yn cael eu defnyddio yn nyddiau cynnar y ‘Land Cruise’. Ond wrth i’r teithiau hyn ddod yn fwy poblogaidd a’r trenau’n drymach, roedd angen injans cryfach Dosbarth 4 i daclo rhannau serth y lein rhwng Rhuthun a Chorwen a Llanuwchllyn a Dolgellau.
Llun o Orsaf Rhuthun yn edrych i'r gogledd-orllewin ar 22 Hydref 1961. Mae'r SLS Railtour yn aros i adael am Gorwen. Llun gan Bevan Price.
Darlun cyfrifiadurol gan Brian W Williams
Mae Brian W Williams yn cofio teithio rhwng Rhuthun a Dinbych ychydig cyn cau’r lein, pan oedd gorsafoedd Rhewl a Llanrhaeadr wedi cau’n barod. Roedd y trên yn rhedeg trwodd o Ruthun yn syth i Ddinbych heb stopio felly dim ond 8 munud gymerai’r daith.
William Glynne Hughes, Gorsaf feistr olaf Rhuthun yn ymddeol. Llun gan of Vernon Hughes
Lluniau gan Brian W Williams
Y cynllun gwreiddiol oedd cael dwy res o dai yn ‘Railway Terrace’; un bob ochr i’r cledrau. Adeiladwyd y tai ar ffurf bwa i ddilyn y rheilffordd. Mae'r tai a'r rheiliau haearn yn rhestredig. Lluniau gan Fiona Gale.
Ers blynyddoedd lawer, bu craen yr hen orsaf yn rhydu ger Canolfan Grefft Rhuthun, a’r oes aur pan oedd yn llwytho a dadlwytho glo yng Ngorsaf Rhuthun wedi hen ddiflannu. Ond yn ddiweddar, penderfynodd Cymdeithas Ddinesig Rhuthun a’r Cylch mewn partneriaeth â’r Ganolfan Grefftau eu bod am ei gadw a’i atgyweirio. Anfonwyd cais i'r Rhaglen Dreftadaeth 15-Munud a redir gan Cadw a buont yn llwyddiannus. Yn ystod gwanwyn a haf 2022, 60 mlynedd ers 30 Ebrill 1962 pan wnaeth y trên teithwyr diwethaf basio trwy Ruthun, dechreuwyd ar y gwaith o’i atgyweirio. Noddwyd y gwaith gan fusnes lleol, Jones Bros a fu'n ymwneud â chlirio safle'r rheilffordd dros 50 mlynedd yn ôl. Rhoddwyd gweddnewidiad llawn i'r craen, gan gynnwys paentio a weldio, er mwyn sicrhau ei fod yn goroesi ar gyfer y dyfodol.
Tocynnau gwreiddiol, gan Brian W Williams – a chopïau y gellir eu gweld mewn maes parcio yn Rhuthun. Ydych chi wedi’u gweld nhw wrth fynd am dro drwy’r dref?
Hoffem ddiolch i'r canlynol am gyfrannu i'r llyfr hwyliog, llawn gwybodaeth hwn
Roger Edwards
Arnold Hughes
Doris Hughes
Vernon Hughes
Valerie Langford Jones
Cllr Anne Roberts MBE
John Roberts
Moira Roberts
Brian W Williams
Lavinia Williams
Mary Williams
Fiona Gale MBE
Kathy Barham Prif Swyddog Gweithredol a Sylfaenydd Book of You CIC