Success!
Error!
Mae’r llyfr hwn yn gyflwynedig i’r rhai sy’n fyw a’r rhai nad ydynt gyda ni mwyach a weithiodd mor galed yng Nghastell Rhuthun pan fu’n ysbyty ac yn awr fel gwesty.
Cyfrannodd criw o bobl frwdfrydig i’r llyfr hwn dros gyfres o 6 sesiwn Zoom wythnosol gydag E Dilwyn Jones, Swyddog Cyswllt Book of You, a Kate Harcus, Rheolwr yr Hen Lys, Rhuthun, rhwng diwedd mis Mai a diwedd mis Mehefin 2021.
Cafodd Castell Rhuthun ei wneud yn ysbyty/sanatoriwm/sefydliad ymchwil meddygol yn 1923, gan weithredu felly tan 1962. Y disgrifiad swyddogol oedd lle “i ymchwilio a thrin clefydau meddygol anhysbys”. Yn ddiddorol, mewn cyfnod nad oedd mor wleidyddol gywir, ychwanegwyd pedwar gair yn aml – “Ni dderbynnir achosion meddyliol.”
Y cyfarwyddwr clinigol oedd Dr Edmund Spriggs, a gafodd y teitl Syr yn ddiweddarach, ac yna’r Dr Sydney Patterson.
Deilliodd gwaith pwysig o’r ysbyty yn y castell, yn cynnwys canfod y cysylltiad rhwng inswlin a diabetes ac un meddyg yn rhan o drawsblaniad y galon gyntaf a gynhaliwyd yn Ne Affrica.
Gwnaeth yr Ail Ryfel Byd a dyfodiad y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn 1948 arwain at ddirywiad yr ysbyty. Dim ond 12 claf oedd yno ar adeg cau’r ysbyty, o’i gymharu â’r cyfnod 1925-35 pan dderbyniwyd 4,796 o gleifion – bron i 500 y flwyddyn gyda’r ysbyty â lle i 64 o gleifion ac roeddynt yn aros am dair wythnos ar gyfartaledd.
Roedd cleifion enwog yr ysbyty yn cynnwys Laurence Olivier a Gilbert Harding.
Un o’r aelodau staff diddorol oedd radiograffydd o’r Swistir o’r enw Marxer y cyhoeddwyd ei radiograffiau mewn llyfrau testun meddygol arwyddocaol er nad oedd ganddo unrhyw gymwysterau meddygol ffurfiol.
Nid yw’n hollol glir beth oedd yr union driniaethau a gynigiwyd yn y castell, ond yn sicr roeddynt yn cynnwys trin gordewdra a doluriau ar y dwodenwm. Bu’n amhosibl cadarnhau’r sibrydion ei fod yn ‘glinig sychu’ er ei bod yn wybyddus bod llawer o sêr (e.e. Tony Hancock) yn sôn am fynd i glinig i ‘golli pwysau’ pan fyddent yn mynd i gael seibiant oddi wrth alcohol. Gallai’r cyfeirio at ‘driniaeth gordewdra’ fod yn ymadrodd cod.
Mae dwy ystafell driniaeth ar yr ochr chwith ac mae’r labordy a’r gegin ar y dde.
Michael Birtwell a (thu ôl i’r ffigur) Dave Stephen. Roedd gan y dynion hyn efail yn nhiroedd y castell lle’r oeddynt yn gwneud llawer o waith haearn gyrru, yn cynnwys llunio nifer o’r giatiau sy’n parhau yno heddiw.
Arhosodd y Tywysog Charles yn y Castell yn ystod taith arwisgiad 1969. Tybed wnaeth o aros yn ystafell Tywysog Cymru? Enwyd yr ystafell ar ôl Albert Edward (Brenin Edward VII yn ddiweddarach). Ymddengys ei fod yn ymweld â’r castell yn fynych yn ystod ei flynyddoedd ieuengach fel Tywysog Cymru.
Arferai Castell Rhuthun gynnal gwleddoedd canoloesol hynod boblogaidd. Byddai’r holl weinwyr a’r criw adloniant wedi’u gwisgo mewn dillad canoloesol a byddai pobl yn mwynhau pryd o fwyd fel yn y canoloesoedd. Roedd hyn yn cynnwys bwyta gyda’ch dwylo a mwynhau medd melys. Roedd y rhain mor boblogaidd roedd teithiau bws penodol i gludo pobl i fwynhau’r wledd.
Cynhaliwyd y gwleddoedd canoloesol hyn yn y castell am tua hanner can mlynedd o 1966/67, yn dilyn syniad gwreiddiol Ken Favell, pensaer yn y dref. Roedd y gwesteion yn cael cawl i ddechrau, golwythion cig oen neu gyw iâr gyda saws gwin ac oren a thaten pôb a salad gyda silabwb cartref yn bwdin. Roedd bara’n cael ei dorri o’r dorth â llaw, a’r dorth yn mynd o un unigolyn at y nesaf. Dim ond dagr a ddarparwyd i ddechrau – dim cyllyll na ffyrc eraill.
Roedd adloniant byw yn rhan annatod o’r profiad gwledd ganoloesool gyda Bernard ac Ena Woolford a sawl aelod o’u teulu ynghlwm â’r adloniant – canu a cherddoriaeth ar y delyn gyda chaneuon wedi’u hysgrifennu’n arbennig gan rai fel y diweddar Gilmor Griffiths, cerddor a chyfansoddwr enwog yng Nghymru. Roedd twristiaid, yn enwedig y rhai o America, yn dangos eu gwerthfawrogiad trwy roi arian yn hael i’r plant yn y criw adloniant a gallai cymryd rhan fod yn werth chweil iddynt.
Roedd medd neu win yn cael ei weini mewn gobledi gyda’r bwyd yn y gwleddoedd ac roedd cymysgedd neu gyfuniad o’r ddau yn flasus, ond unwaith roedd pobl yn mynd allan i’r awyr iach ar ôl un neu ddau roedd yn cael cryn effaith – fel y gallai rhai o aelodau’r grŵp dystio o brofiad personol. Roedd tocyn am noson, yn cynnwys y bwyd a’r adloniant yn ogystal â’r medd a’r gwin, yn costio 17/6 yn wreiddiol, neu 88 ceiniog mewn arian degol.
Roedd tua 120 o bobl yn y gwleddoedd gwreddiol, twristiaid yn arferol gydag unrhyw seddi gwag yn cael eu llenwi gan bobl leol a fyddai’n prynu tocyn neu weithiau’n cael tocynnau am ddim.
Gwnaeth un aelod staff yn y wledd fygwth taflu un cwsmer a oedd yn mynd braidd yn swnllydd allan o’r neuadd, a chanfod wedyn mai’r cwsmer dan sylw oedd rheolwr Muhammad Ali!
Llun o’r dynion a’r merched a fyddai’n perfformio a chyflwyno adloniant i’r bobl yn ystod y gwleddoedd.
Roedd Meredith Edwards yn un o actorion gorau Cymru a ymddangosodd mewn degau o ffilmiau yn dilyn ei ffilm gyntaf, "A Run For Your Money" yn 1949 – un o’r Rhos, Wrecsam yn wreiddiol (fel Bernard Woolford) ac roedd yn byw yng Nghilcain ger yr Wyddgrug ar ôl ymddeol yn rhannol, ac roedd yn y gwleddoedd yn aml.
Llofnodwyd gan Meredith Edwards a Stuart Burrows
Y prif, ac efallai’r unig anrheg am ddim a roddwyd i ferched yn y gwleddoedd
Criw yn hyrwyddo cystadleuaeth yn cynnig car Ford Escort Marc 1 fel gwobr
Gwnaeth y cantorion a oedd yn perfformio yn y castell recordio dwy record hir yr oedd pobl yn medru eu prynu.
Mae’r Castell wedi gofalu am beunod am nifer o flynyddoedd. Mae 19 yn byw yno ar hyn o bryd, ac maent yn un o’r uchafbwyntiau i’r gwesteion a’r bobl leol eu gweld.
Roedd y staff, yn cynnwys y rhai yn y cefndir, yn cael eu gwerthfawrogi a’u cofio a dyma rai yn dathlu’r Nadolig.
Gosodwyd Meini’r Orsedd yn 1972 i gyhoeddi bod yr Eisteddfod Genedlaethol i’w chynnal yn Rhuthun y flwyddyn ganlynol.
Gellir mynd at y cylch o 12 carreg, gyda phlinth canolog o’r enw’r Maen Llog, trwy diroedd trydydd canrif ar ddeg y castell. Maent yn cofnodi y dewiswyd Rhuthun i gynnal yr Eisteddfod Genedlaethol, digwyddiad blynyddol pwysig iawn yng Nghymru, yn 1973. Mae’r maen talaf tua 1.5 medr o uchder, ac mae diamedr y cylch oddeutu 20 medr. Y Maen Llog, yn y canol, oedd y lleoliad i’r Archdderwydd gyhoeddi’r ŵyl a dyma lle’r perfformiwyd dawnsfeydd y seremonïau a lle’r derbynnir holl aelodau newydd yr Orsedd. Mae’r 12 carreg sy’n ffurfio’r cylch yn cynrychioli’r 12 hen sir yng Nghymru. Yn arferol roedd y meini yn rhai o’r ardal leol, ac maent yn eiconau ledled Cymru, yn dyst parhaol i ddiwylliant Cymreig ar ei orau.
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn Rhuthun ym mis Awst 1973 ac roedd y Seremoni Gyhoeddi a Gorsedd y Beirdd yn nhiroedd y castell flwyddyn ynghynt yn 1972.
Diolch yn fawr iawn i bawb a gyfrannodd.
Aelodau’r grŵp:
Y Cynghorydd Stephen Beach
Ceris Edwards
Roger Edwards
Antony Jeffery
Y Cynghorydd Anne Roberts MBE
Edwina Stephen
Rob Stephen
Y Cynghorydd Geraint Woolford
E Dilwyn Jones (Cwmni Budd Cymunedol ‘Book of You’)
Thandi Carklin (Cwmni Budd Cymunedol ‘Book of You’ - Gwirfoddolwr)
Kate Harcus (Rheolwr yr Hen Lys)