Success!
Error!
Cyflwynir y llyfr hwn i staff a disgyblion Ysgol Borthyn, Rhuthun, rhai’r presennol a rhai’r gorffennol.
Mae "Stori Rhuthun" yn brosiect a gyllidwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri i alluogi trigolion i rannu eu hatgofion am y dref a chreu llyfr hanes cymunedol digidol ar y cyd gan ddefnyddio platfform amlgyfrwng ‘Book of You’.
Penderfynwyd, gyda Kate Harcus, Rheolwr yr Hen Lys a Dilwyn Jones o ‘Book of You’, canolbwyntio ar Ysgol Borthyn yn gyntaf, gyda sesiynau Zoom awr o hyd yn wythnosol, a gynhaliwyd ar nos Fawrth a phrynhawn Mercher. Dyma’r canlyniad, gyda diolch i bawb a gyfrannodd – rhestr y cyfranogwyr a’r diolchiadau ar y diwedd.
Cynhaliwyd yr 11 sesiwn trwy gyfrwng cyswllt fideo i greu’r llyfr hwn yn ystod pandemig Coronafeirws 2020 pan oedd cyfyngiadau niferus yn bodoli. Roedd y gwaith ymchwil a chasglu’r gwahanol adnoddau cyfryngol yn anoddach nag y byddai fel arall. Fodd bynnag, diolch i frwdfrydedd y trigolion a’r cyfranogwyr, gwnaethom lwyddo i greu llyfr stori cyfoethog y credwn y gellir ei fwynhau am flynyddoedd i ddod.
Mae’r casgliad hwn yn dangos dosbarthiadau yn Ysgol Borthyn o’r 1920au hyd at yr 1980au.
Llun cynnar o fabanod Borthyn gyda Dobbin – 1920au mwy na thebyg. Cyrhaeddodd Dobbin, y ceffyl siglo, Ysgol Borthyn yn 1916 a gadawodd dros 70 mlynedd yn ddiweddarach yn 1988 (erthygl papur newydd i ddilyn yn ddiweddarach) ond lluniwyd atgynhyrchiad sy’n parhau yn yr ysgol heddiw.
Ar y chwith mae Robert Davies, 4 oed, ar Dobbin yn 1926, ac ar y dde mae Dobbin eto yn 1944.
Dobbin yn carlamu i’r machlud yn 1988
Tri brawd a’u chwaer – dyddiad yn ansicr
Hen lun ysgol o ddiwedd yr 1940au. Yn y canol mae Mr Arthur Tyldesley, Maer Rhuthun bryd hynny.
Yn ystod sesiwn gyntaf y grŵp cymunedol a gynhaliwyd 27 Ionawr 2021, cafwyd cymysgedd o atgofion. Dyma rai o’r uchafbwyntiau.
Roedd rhai yn cofio llefrith ysgol yn cael ei ddanfon i’r ysgol a’i adael y tu allan nes ei fod yn rhewi ac yn dod allan o’r botel. Yna roedd yn cael ei gynhesu yn yr ystafell ddosbarth ar reiddiadur cyn i’r disgyblion ei yfed. Cafwyd atgofion hefyd am olew iau cod gyda sudd oren, nad oedd yn ddiod poblgaidd! Mor amhoblogaidd yn wir fel nad oedd rhai o’r disgyblion a ddaeth yn athrawon yn ddiweddarach yn medru gwneud i’w hunain roi diodydd iach o’r fath i’r genhedlaeth nesaf.
Roedd llawer yn cofio "Dobbin" – ceffyl siglo’r ysgol ac yn cofio cael dewis record i’w chwarae ar gramaffôn yng ngwasanaeth yr ysgol ar fore eu pen-blwydd. Roedd y record yn cael ei ddewis o ddetholiad cyfyngedig o glasuron fel y “Trumpet Voluntary” ac "Eye Level", thema’r gyfres newydd a phoblogaidd o’r 1970au Van Der Valk. Fodd bynnag, cafodd ei wahardd yn gyflym am ei fod yn gysylltiedig â chyfres am “bobl ddrwg.”
Braint pen-blwydd arall yn yr ysgol ar un adeg oedd cael eistedd yn y “Gadair Aur.”
Roedd J Llewelyn Roberts ("Llew Pentre") a John Rhydwen Jones yn gyn Brifathrawon a gofiwyd yn dda, yn ogystal â Neil Roberts, a oedd yn bresennol yn y grŵp. Gwerthfawrogwyd y ffaith eu bod yn gwybod enwau’r disgyblion i gyd, ac enwau’r rhan fwyaf o’r rhieni, yn fawr iawn.
Roedd athrawon fel y ddwy Miss Smith barchus a Miss Hitchen wedi aros yng nghof llawer, gan ddangos y dylanwad mawr a gafodd yr athrawon hyn ar ein bywydau.
Tair athrawes - Miss Roberts a’r ddwy Miss Dunning. Am flynyddoedd lawer, tan ganol i ddiwedd yr 1940au, roedd merched a oedd yn athrawon yn cael eu gorfodi i roi’r gorau i’w gyrfa ar ôl priodi – sy’n esbonio pam bod athrawesau hyd at gyfnod penodol yn tueddu bod yn Miss…. beth bynnag. Y meddylfryd swyddogol oedd, ar ôl priodi roedd ganddynt ddyn i’w cynnal ac felly roedd yn rhesymol iddynt roi’r gorau i’w swydd i wneud lle ar gyfer merched llai ffodus!
Miss Roberts a’r ddwy Miss Dunning. Am flynyddoedd lawer, tan ganol i ddiwedd yr 1940au, roedd merched a oedd yn athrawon yn cael eu gorfodi i roi’r gorau i’w gyrfa ar ôl priodi – sy’n esbonio pam bod athrawesau hyd at gyfnod penodol yn tueddu bod yn Miss…. beth bynnag. Y meddylfryd swyddogol oedd, ar ôl priodi roedd ganddynt ddyn i’w cynnal ac felly roedd yn rhesymol iddynt roi’r gorau i’w swydd i wneud lle ar gyfer merched llai ffodus!
Mae Ysgol Borthyn yn, ac wedi bod yn ysgol eglwys erioed, a oedd yn golygu ymweliadau gan bersoniaid a phrofion o fath am wybodaeth grefyddol – trwy gyfrwng Eglwys Llanfwrog yn arferol. Dyma un enghraifft a ddarparwyd gan Janet Lewis, Howells yn enedigol.
"19" oedd rhif Ysgol Borthyn ar gyfer gwahanol gystadlaethau athletau am sawl blwyddyn ac mae’r rhif hwnnw wedi aros ym meddyliau sawl cenhedlaeth o ddisgyblion blaenorol.
1956 – a llechen a sialc yn parhau i gael eu defnyddio! Roedd Edwina Stephen – aelod o’r Grŵp Book of You yma a oedd hefyd yn aelod o’r dosbarth hwn.
Llyfr darluniadu – roedd Siop Maldwyn yn siop fferins a theganau ar Stryd Clwyd
Llyfr Sillafu 1959 gyda gorchudd papur brown. Roedd papur o’r fath, neu hen bapur wal, yn cael ei ddefnyddio’n aml i warchod llyfrau yn y blynyddoedd a fu.
Miss Gwyneth Owen a’i dosbarth – symudodd i Ysgol Stryd y Rhos yn ddiweddarach
Tisian pwerus Miss Hitchin yn parhau i’w gofio gan lawer!
Llewelyn Roberts a’i ddosbarth yn cynnwys Roger Edwards, Pennaeth Ysgol Brynhyfryd yn ddiweddarach.
Mae ei gyn-ddisgyblion yn cofio "Llew Pentre", fel y’i gelwid, gydag anwyldeb mawr – un o’r rhain oedd Barry Davies o Ruthun (trwy Edwina Stephen, ei nith).
Daeth Llew yn Brifathro ar ôl Evan Davies a bu’n llwyddiannus iawn yn sicrhau canran uchel yn llwyddo yn y prawf 11+ yn yr ysgol.
Gwnaeth llawer o waith ym maes peldroed a chriced gyda’r sgowtiaid.
Arferai Llew fynd â Barry a’i ffrind Elwyn Edwards i wylio’r criced ym Mae Colwyn yn rheolaidd a dysgodd Barry i yrru yn ei gar to meddal.
Yn wir, aeth â Barry ac Elwyn i briodas Barry yng Ngherrigydrudion yn y car ac yna gludo Barry a’i wraig newydd Gretta i Landudno ar eu mis mêl.
Roedd Llew’n dioddef yn ddifrifol efo asthma a bu farw yn ifanc iawn, yn 54 oed. Fe’i claddwyd yn Llanbedr ac aeth llawer o ddisgyblion i weld ei fedd ar noson ei angladd, gyda bechgyn a merched yn eu dagrau am eu bod mor hoff ohono.
Erthyglau papur newydd wedi’u darparu gan Edwina Stephen
Eisteddfod yr Ysgol 1987
John Rhydwen Jones (Prifathro) gyda Sarah E Jones ar y chwith iddo a Mrs Williams – gwraig ficer Llanfair ar y pryd – ar y dde iddo a R D Jones (Bontuchel ) yn sefyll.
Roedd mynd â’r “adroddiad ysgol” adref yn creu pryder i lawer, ond nid oedd hynny’n wir yn achos Edwina a Moira sydd wedi cytuno’n garedig i rannu enghreifftiau o’u rhai nhw. Adroddiadau rhagorol!
Tystysgrifau Sheila McGregor ar y chwith a Jean McGregor ar y dde. Gwnaeth y ddwy chwaer McGregor yn dda yn eu arholiadau a’u tystysgrifau.
Roedd llawer o ddisgyblion yn cael tynnu eu lluniau yn yr ysgol gyda ffrindiau neu berthnasau.
Roedd R D Jones, yr oedd llawer yn ei adnabod fel "Jones Bontuchel”, yn athro uchel ei barch ond nid oedd yn adnabyddus am ei synnwyr digrifwch.
Cafwyd stori gan Ian Woolford, brawd Maer Rhuthun yn ddiweddar Geraint, am gyfnod cyn i fechgyn Borthyn gael y moethusrwydd o doiledau yn adeilad yr ysgol. Roedd troethfa y tu allan i’r bechgyn ac roedd cystadlaethau brwd ymhlith y bechgyn wrth geisio canfod pwy oedd yn medru gwneud dŵr yr uchaf i fyny wal y droethfa. Un amser cinio roedd Ian a rhai o’i ffrindiau wedi yfed symiau anhygoel o ddŵr gyda’u cinio ysgol i baratoi ar gyfer y rownd ddiweddaraf. Y newyddion da oedd yr enillodd Ian yn hawdd iawn. Y newyddion ddim cystal oedd y bu mor llwyddiannus nad oedd digon o wal ar ôl. Y newyddion drwg oedd bod R D yn digwydd bod yn cerdded yr ochr arall i’r wal ar yr adeg dyngedfennol yn gwisgo ei siwt newydd. Cafodd yr hyn a ddisgrifiodd Ian fel ‘cawod euraidd’ a gadawyd Ian yn cael anhawster eistedd yn gyffyrddus am gryn amser wedyn.
Stori J R Jones, Sarah Jones a Susan Jones - Ymddengys, er nad oedd yn hanfodol cael y cyfenw Jones, bod hynny’n ddefnyddiol i athrawon Borthyn yn yr 1960au!!
Roedd gan J R Jones, y Prifathro, lawer o rinweddau ond nid oedd amynedd a rheoli ei dymer ar frig y rhestr bob amser.
Roedd Susan yn athrawes newydd gymhwyso a oedd yn byw yn Rhos, Wrecsam, ac yn teithio i’w gwaith bob dydd. Un bore oer ym mis Ionawr pan oedd eira trwm cychwynodd ar ei thaith i’r ysgol yn gynnar iawn. Wnaeth ffonio i ddweud bod y tywydd yn rhy wael ddim croesi ei meddwl. Fodd bynnag, cymrodd y siwrne oriau iddi a chyrhaeddodd hanner awr yn hwyr, wedi rhewi hyd mer ei hesgyrn ac yn crynu oherwydd yr oerfel a’i nerfau wrth yrru. Cafodd ei chyfarch gan J R a oedd wedi treulio 30 munud yn gofalu am ei dosbarth hi yn ogystal â’i ddosbarth ei hun ac roedd yn gandryll. Gwaeddodd arni, ond roedd hyn yn ormod i Susan a dechreuodd grïo a chloi ei hun yn y toiled. Ysgrifennodd J R nodyn i un o’r disgyblion ei roi i Sarah E Jones wnaeth dreulio hanner awr wedi hynny yn tawelu Susan a’i pherswadio i ddod allan o’r toiled. Cyn hir roedd yn “amser chwarae” i’r disgyblion ac aeth yr athrawon am eu paned ganol bore yn yr ystafell athrawon. Roedd rhai o’r staff yn edrych ymlaen at weld beth fyddai Mrs Jones yn ei ddweud wrth J R. Yn wir, roedd o (a oedd wedi dadgynhyrfu ac yn edifar am ei weithredoedd) yn pendroni am hyn! Y cyfan wnaeth Sarah Jones oedd holi am deulu J R, yn cynnwys ei ddwy ferch, gan ychwanegu mae’n siwr ei fod yn gobeithio eu bod yn cymryd gofal os oedd y tywydd cynddrwg lle’r oedden nhw. Cytunodd, wrth gwrs. Yna, ychwanegodd Sarah Jones y byddai J R yn ddiamau yn gobeithio na fyddai unrhyw un yn gas i’r naill o’i ferched petaen nhw’n digwydd bod ychydig yn hwyr oherwydd cymryd gofal. Cytunodd eto, a gwyddai ei bod wedi dweud y drefn wrtho er nad oedd wedi cyfeirio at y digwyddiad â Susan Jones o gwbl!
Athletau yn y neuadd fwyta – dim matiau, dim Iechyd a Diogelwch!
Gyda dau aelod newydd yn y grŵp trafod cyfeiriwyd at y Drill Hall, gyferbyn â’r ysgol, a oedd yn cael ei ddefnyddio’n helaeth fel campfa’r ysgol ac ar gyfer cyngherddau, partïon a ffeiriau ysgol ac ati. Byddai John Hugh Edwards – gweithredwr cyfreithiol lleol – yn dangos ffilmiau yn y Drill Hall ar un adeg ar y bore cyn y parti Nadolig, yn cynnwys ffilmiau cartref wedi eu ffilmio yn ac o gwmpas Rhuthun. Yn ystod cyfnod y rhyfel credir bod y Drill Hall wedi gweithredu fel ysgol ar wahân i’r faciwîs ond yn gysylltiedig ag Ysgol Borthyn.
Roedd atgofion melys hefyd am y Gwasanaeth Carolau Blynyddol, a fyddai’n cael ei gynnal yn y gwahanol addoldai yn y dref am gyfnod yn y 70au a’r 80au, ond cyn hynny roedd y cyngherddau yn y Drill Hall a nawr tueddir eu cynnal yn Eglwys Llanfwrog.
Soniwyd llawer am gae chwarae’r ysgol, "Cae Samon", a oedd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer peldroed a chwaraeon eraill gan blant lleol yn ystod y gwyliau ysgol hyd yn oed.
Roedd y gwasanaeth ysgol yn gofiadwy i lawer dros y blynyddoedd a’r holl fuddion yn deillio o ddathlu pen-blwydd ar ddiwrnod ysgol – o gael mynd ar gefn “Dobbin” y ceffyl siglo i eistedd yn y “Gadair Aur” i ddewis y record ar gyfer y gwasanaeth y bore hwnnw.
Mae’n ddiddorol sut mae awyrgylch cyfeillgar yr ysgol yn cael ei grybwyll yn aml gan gyn-ddisgyblion ac athrawon o wahanol oedran, ac mae’r naws yma’n parhau heddiw.
Delyth Edwards (Hughes bryd hynny) gyda siaradwyr Cymraeg yr ysgol fabanod yn 1968, a oedd ar wahân i’r disgyblion iau y dyddiau hynny – h.y. yn cael ei ystyried fel dwy ysgol ar un campws. Daeth yr ysgol ‘yn un’ yn 1983.
Dilwyn Jones, Book of You, yn ail ar y chwith yn y rhes gefn. Mae Dilwyn yn cofio enwau pawb arall ond mae rheoliadau diogelu data yn ein hatal rhag eu cynnwys yma.
Gyda Bronwen Jones/Bronwen Lebbon
Gwen Jones, Olwen Roberts, Gruff Hughes, Hubert Morris a Bronwen Lebbon. Sarah Jones, J R Jones a Beti Gwynn Jones.
Jeff Brimble a Richard Aldrich yn cyflwyno i’r plant, 1977
Nerys Hughes, John Myddleton Williams ac Ann Roberts. Gwen Jones, J R Jones, Sarah Jones ac Olwen Roberts.
Mae hwn yn ffotograff gan y wasg o’r "Free Press" yn dangos cyflwyniad i Sarah Jones ar achlysur ei hymddeoliad ym mis Gorffennaf 1980. Y bachgen bach sy’n gafael yn y paentiad olew, un hanner ei rhodd ymddeol, yw Mark Hayhurst – a fu’n ohebydd i’r “Free Press” yn ddiweddarach. Gweithiodd y cloc sy’n cael ei ddal gan ferch fach, yn cynrycholi hanner arall y rhodd, yn berffaith am 12 mlynedd a hanner cyn i’r mecanwaith mewnol ddod o’i gilydd heb unrhyw reswm amlwg ar noson marwolaeth gŵr Mrs Jones.
Daeth y syniad am Bont y Plant o Ysgol Borthyn ychydig o flynyddoedd cyn yr agoriad swyddogol hwn yn 1981.
Mae’n bont rhwng safleoedd yr hen iard lo a Garej y Bont ar Heol y Parc i’r carchar.
Roedd Gruff Hughes, yr athro fu’n ymwneud â’r syniad gwreiddiol, wedi gadael erbyn hynny ond gellir gweld y Prifathro, J R Jones, yn ail ar y chwith yn y rhes gefn yn y llun hwn.
Dechrau’r 1980au mae’n debygol. Roedd mynd i aros ym Mhentrellyncymer, ger Cerrigydrudion, neu yn Nhŷ Gwyn neu yng Nglan Llyn (Y Bala) yn ddigwyddiad carreg filltir ym mywydau’r disgyblion – y tro cyntaf i lawer ohonyn nhw fod o’u cartref a cham mawr yn y broses o aeddfedu.
Rhiannon Davies (ysgrifenyddes yr ysgol), Olwen Cottle a Menai Price. Catrin Roberts, Nancy Jones a Delyth Edwards
Sioe Nadolig yn 1986
Llun papur newydd o 1988 gydag Alice Forkings yn cyflwyno’r blodau.
Nancy Jones a’i chacen ymddeoliad yn 1988 – gyda Delyth Edwards a Menai Price.
Y cyn Bennaeth a’r Pennaeth newydd, Nancy Jones a Neil Roberts – diwedd yr 1980au
Gwaith adnewyddu oddeutu 1990.
Erthygl yn y papur newydd ynghylch ailagor yn dilyn y gwaith adnewyddu – diwedd yr 1980au
Rhiannon Davies – ysgrifenyddes yr ysgol – yn y glaw rhwng y cabanau
1991, John Myddleton Williams a Neil Roberts, Mair Roberts, Bronwen Ll Jones, Delyth Edwards ac Alys Owen.
Roedd atgofion y grŵp yn cynnwys chwarae gemau ar y buarth fel British Bulldog, Red Rover ac Mae’r ffermwr eisiau gwraig.
Roedd atgofion melys ynghylch digwyddiad mawr blynyddol y Gwasanaeth Carolau o gael eu dewis i chwarae’r melodica neu’r melodeon – offerynnau eu cyfnod efallai. Roedd atgofion hefyd am y pwdin semolina amser cinio ysgol a oedd yn cael ei wini gyda jam mefus a’r arfer, yn enwedig ymhlith y bechgyn, o gymysgu eu pwdin nes ei fod fel sment pinc gwlyb – a dim awydd ei fwyta wedyn.
Os oedd plentyn yn teimlo’n sâl nid oedd yn anarferol i blentyn arall gael ei ddewis i hebrwng yr un sâl adref. Nid oedd Iechyd a Diogelwch gymaint o ystyriaeth yn y gorffennol!
Nid oedd llawer yn cofio fawr am Terry, gofalwr yr ysgol am flynyddoedd maith yn yr 1960au, 70au a’r 80au gan fod llawer o’i waith yn cael ei wneud y tu allan i oriau ysgol, ond pan oedd atgofion amdano roeddynt yn rhai melys iawn.
Ymddeoliad y gofalwr Terry Jones fu’n gwasanaethu am flynyddoedd maith, gyda Nancy Jones a J R Jones
Atgofion – Y tro hwn cafwyd atgofion am gyn-ofalwyr eraill (ac eithrio Terry Jones a grybwyllir mewn rhan arall o’r llyfr hwn), yn cynnwys Mr Williams a oedd yn byw ger yr ysgol a Trevor Kenyon.
Ymddengys bod pob cenhedlaeth yn cofio’r pwdinau llefrith a oedd yn rhan o’r cinio ysgol – nid semolina yn unig, ond tapioca a sago hefyd. Nid yw’r rhain yn atgofion mor bleserus i rai, ond in eraill dyma lle dechreuodd eu hoffter gydol oes o bwdinau llefrith.
Ymddengys bod eisteddfod ysgol yn cael ei chynnal yn yr 1940au a’r 50au ond nid am gyfnod yn y 60au a’r 70au hyd at ddechrau’r 80au. Erbyn hynny roedd y cysylltiadau â’r eisteddfod yn ymwneud mwy â’r Urdd.
Roedd llawer o’r athrawon roedd y disgyblion yn eu cofio o ddegawdau blaenorol yn "Miss..." oherwydd, tan o leiaf ar ôl yr Ail Ryfel Byd, roedd rhaid i athrawes roi’r gorau i’w swydd ar ôl priodi. Roedd hyn a diffyg cyflog cyfartal i athrawon benywaidd a gwrywaidd tan o leiaf ddiwedd yr 1960au yn atgofion am orffennol mor wahanol i heddiw… mewn ysgolion a gweithleoedd eraill wrth gwrs.
Gwisg Delyth Edwards yn 1996! Gwelwyd y dillad yn y gwasanaeth carolau yn y 60au a’r 70au yn unig.
Roedd disgyblion Ysgol Borthyn yn mynd i Ffrainc yn flynyddol yn yr 1990au a dechrau’r mileniwm newydd gydag Ysgol Stryd y Rhos ac Ysgol Pen Barras unwaith neu newydd, i weld Tapestri Bayeux, traethau’r glanio yn Normandi, mynwentydd y rhyfel ac, wrth gwrs, atyniadau Paris.
Staff o Ysgol Borthyn, Ysgol Stryd y Rhos ac Ysgol Pen Barras yn Normandi.
Ymddeoliad Delyth Edwards fel Dirprwy Bennaeth.
Ar adeg ei ymddeoliad cafodd Neil Roberts (Pennaeth 1988-2014) ei berswadio i wisgo cot newydd y ddynes lolipop ar gyfer llun, a gafodd ei osod yn ddiweddarach yn y ffotograff hwn o’r Beatles, un o hoff fandiau Neil.
Mae Teleri Llwyd Jones wedi bod yn Bennaeth ers 2016, yr ail ferch i ddal y swydd o ran rhan “iau” yr ysgol. Pan fu dwy ysgol ar wahân ar yr un campws – babanod ac iau – yn arferol roedd prifathrawes yn y babanod ond prifathro yn yr adran iau.
Mae Jan Edwards wedi bod yn ddynes lolipop Ysgol Borthyn am 37 o flynyddoedd ac mae hi’n prynu anrhegion i’r plant ei hun adeg y Nadolig, Calan Gaeaf a phan fyddant yn gadael yr ysgol ac mae hi wedi gweithio trwy bob tywydd a’r pandemig diweddar. Un o arwyr disylw Ysgol Borthyn ac, yn wir, Rhuthun yn gyffredinol.
Merched cinio yn mwynhau ciniawa’n ddiweddarach! Doreen, Meinir, Beryl, Megan, Gretta a Janet.
Diolch yn fawr iawn i bawb a gyfrannodd.
Julia Buckley-Jones
R Gruff Hughes
Ann Jones
Bronwen Lebbon
Carys Morgan
Delyth Edwards
Nicholas Edwards
Doris Hughes
John Jones
Janet Lewis
Y Cynghorydd Anne Roberts MBE
Neil Roberts
Gail Root
Polly Snape
Edwina Stephen
Liz Davies
Roger Edwards
Nancy Jones
Moira Roberts
E Dilwyn Jones (Book of You)
Kate Harcus (Rheolwr yr Hen Lys)