Success!
Error!
Ar ôl derbyn rhodd garedig gan Arwel Roberts o arian a godwyd tra’r oedd yn Gadeirydd Cyngor Sir Ddinbych, cynhaliwyd cyfres o sesiynau gan Book of You CBC a Making Sense CBC yng Nghartref Nyrsio Plas Eleri yn Ninbych o ddiwedd Mehefin hyd at ganol Awst 2023. Cynhaliwyd sesiynau Cymraeg a Saesneg gyda phreswylwyr sy’n byw gyda dementia. Roedd y sesiynau’n seiliedig ar chwe gwrthrych yn arbennig wnaeth dynnu sylw ein cyfranogwyr allan o gasgliad mwy o wrthrychau a ddarparwyd yn bennaf gan Making Sense o’u pecynnau gwych ar gyfer hel atgofion.
Adeiladwyd Plas Eleri yn wreiddiol gan adeiladwyr lleol, sef y Brodyr Wynne. Fe wnaethant arallgyfeirio i agor y cartref arbenigol pwrpasol hwn er cof am eu diweddar chwaer, ac fe enwyd y cartref ar ei hôl. Bu ambell newid ers dyddiau’r Brodyr Wynne, o ran perchnogaeth ac fel arall, ond mae Plas Eleri yn un o’r ychydig iawn o gartrefi nyrsio yn Sir Ddinbych sy’n dal i ddarparu gofal ar gyfer anghenion arbenigol rhai sy’n byw gyda dementia datblygedig. Mae’r awyrgylch deuluol, ofalgar a chariadus yn amlwg i unrhyw un sy’n ymweld â’r cartref, a chyflwynir y llyfr hwn i staff a phreswylwyr Plas Eleri ddoe a heddiw.
Y syniad y tu ôl i ‘Chwe Gwrthrych’ yw bod grŵp o bobl yn hel atgofion gyda’i gilydd yn seiliedig ar chwe gwrthrych gwahanol sy’n golygu rhywbeth i rai neu i bob un ohonynt. Roedd hi’n anodd gweithio gyda phreswylwyr Plas Eleri ar adegau gan mai cartref nyrsio ydi o, gyda’r mwyafrif sy'n byw yno â dementia datblygedig. Ond yr hyn rydyn ni'n gobeithio ein bod wedi'i ddangos yn y llyfr hwn yw lle bynnag y mae rhywun ar ei daith drwy ddementia, mae yna rywbeth bob amser a ellir ei ddefnyddio i gyrraedd y person yna, - boed yn sain, cyffyrddiad, ffotograff, gwrthrych - a rhyddhau atgofion o’r gorffennol a ddaw a gwên i’w wyneb. Gobeithio y byddwch yn mwynhau’r gwrthrychau amrywiol hyn, a’r straeon y tu ôl iddynt, sy’n bwysig i drigolion Plas Eleri.
Mae Rhona a Doris yn hoff iawn o flodau,- eu gosod yn arbennig.
Yma, mae Doris yn edmygu ei threfniant pen bwrdd gorffenedig. Yn ystod y broses, roedd yn cofio bod ganddi ddiddordeb mewn trefnu blodau am flynyddoedd lawer, ond yn ddiweddarach, ac ym Mhlas Eleri, rhaid canolbwyntio ar drefniadau pen bwrdd mewn gwerddon yn hytrach na ffiol, a’r blodau o’r herwydd wedi’u torri’n fyr. Mae'r trefniadau hyn wedyn yn bywiogi'r ystafell fwyta ac yn wir ystafelloedd personol y preswylwyr.
Mae Madarchen Glytio’n helpu i ymestyn ffabrig. Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol wrth drwsio twll mewn ffabrig wedi'i wau neu unrhyw ffabrig arall sy’n ymestyn.
Yng Nghymru, mae cysylltiad cryf rhwng y delyn a cherddoriaeth. Mae Shon, sy’n byw ym Mhlas Eleri, a’i wraig Eirlys yn enwau cyfarwydd iawn ym myd cerddoriaeth Gymraeg, yn enwedig “Cerdd Dant” sef caneuon sy’n cael eu perfformio fel arfer i gyfeiliant y delyn. Weithiau bydd Eirlys yn ymweld â Phlas Eleri gyda’i thelyn a’r cwpwl yn canu gyda’i gilydd yn union fel o’r blaen. Mae'r ffilm ganlynol yn dangos pŵer cerddoriaeth i gyrraedd rhywun sy'n byw gyda dementia.
Daeth Making Sense â bocs yn cynnwys eitemau amrywiol o bethau cofiadwy o’r ysgol i weld pa atgofion fyddai'r rhain yn eu tanio, yn enwedig gan fod dau gyn-bennaeth ym Mhlas Eleri – Shon a James. Roedd James yn cofio y gellid defnyddio llwchydd y bwrdd du fel math o gosb. Nid, fel y gellid disgwyl trwy ei daflu, ond yn hytrach, pan fyddai disgybl yn camymddwyn, roedd yn cael ei anfon allan i guro'r llwchydd dro ar ôl tro yn erbyn y wal i gael gwared ar y llwch oedd yn crynhoi ynddo. Roedd James hefyd yn cofio o’i ddyddiau fel disgybl a phrifathro, y byddai cloch yr ysgol yn nodi diwedd sesiynau’r bore neu’r prynhawn a hefyd ddechrau amser chwarae, amser cinio neu egwyl ganol bore neu brynhawn. Roedd yr athrawon a’r disgyblion fel ei gilydd yn falch o glywed caniad y gloch. Ond, byddai’r un gloch hefyd yn nodi diwedd yr egwyl neu amser cinio, ac efallai nad oeddynt mor falch o’i chlywed bryd hynny!
Weithiau, yn hytrach na’r gloch, defnyddiwyd chwiban, a ddefnyddiwyd hefyd ar y cae chwarae. Pan gafodd chwiban ei chwythu’n ysgafn at ddibenion arddangos yn ystod ein sesiwn wythnosol, cafwyd ymateb cryf gan ein cyfranogwyr, gan fynd â nhw yn ôl i fuarth yr hen ysgol a chaeau chwarae ddoe.
Er bod llawer yn y grŵp yn ystyried yr eitem hon fel ‘bwrdd du bach’, y gair cyffredinol am eitem o’r fath flynyddoedd yn ôl oedd ‘llechen’.
Cofiai Rhona hyn yn arbennig a’r gair Cymraeg cyfatebol “Llechen” a ddefnyddiwyd yn Ynys Môn lle’i ganwyd hi.
Roedd y cyfranogwyr yn cofio’r llechi’n dal i gael eu defnyddio mewn llawer o ysgolion, hyd yn oed yn ystod y 1950au. Mae'n debyg bod hyn yn rhannol oherwydd prinder adnoddau ar ôl yr Ail Ryfel Byd.
Myfyriodd Rhona ar ei hatgofion o'r pethau roedd hi'n arfer tynnu llun ohonynt pan yn blentyn. Yn gyffredinol, roeddent yn seiliedig ar ddigwyddiadau dyddiol ar y fferm ar Ynys Môn lle cafodd ei magu, megis wagenni'n tynnu trelars, anifeiliaid ac ati. Yr anfantais fwyaf gyda'r hen lechen, meddai Rhona, oedd na ellid cadw darluniau neu waith da arall. Roedd rhaid eu chwalu a mynd ymlaen i'r peth nesaf. Ond y tro yma, tynnwyd llun o waith Rhona cyn iddo gael ei chwalu!
Daw’r traddodiad o wneud doliau allan o begiau dillad pren o gyfnod pan nad oedd gan bobl fawr o arian i’w wario ar deganau. Roedd Doris a Rhona yn cofio gwneud rhai eu hunain pan oeddent yn blant.
Pleser pur yw gweld y cyfranogwyr gyda gwên hapus ar eu hwynebau yn dilyn gweithgaredd arbennig – yr hapusrwydd yn deillio'n aml o'r atgofion a ddaw’n ôl iddynt oherwydd y gweithgaredd dan sylw. Wrth wneud y ddoli, cofiodd Doris wneud yr un peth ag aelodau hŷn o’i theulu pan oedd yn blentyn, ac yma mae’n edrych ymlaen at ddilyn yr awgrym y gallai wneud doli beg efo’i wyres a’i merch y tro nesaf y byddant yn ymweld, gan fod y deunyddiau ganddi’n barod.
Roedd un cyfranogwr yn chwaraewr domino brwd iawn ac mewn gwirionedd roedd y bocs o ddominos yn boblogaidd gyda llawer ym Mhlas Eleri. Dyma ddangos sut mae’r oes wedi newid, gyda llawer o gemau bellach yn cael eu chwarae ar gyfrifiadur. Mae dominos yn therapi da iawn sy’n annog cymdeithasu rhwng preswylwyr yn ogystal â bod yn ffordd hyfryd o dreulio amser. Pan ofynnwyd i un preswylydd a oedd o’n barod am gêm o ddominos, atebodd “Dwi wastad yn barod am ddominos!” Dywedodd preswylydd arall fod dominos yn gêm fwy diogel na dartiau ym Mhlas Eleri!
Bu gweithio ar y llyfr hwn yn brofiad pleserus, diddorol a gwerthfawr. O ystyried inni gael ein briffio i weithio gyda phobl sy’n byw gyda dementia, un ffaith benodol a amlygwyd oedd pwysigrwydd teulu a ffrindiau ochr yn ochr â gweithgareddau. Pan oedd perthnasau yn ymuno â'r cyfranogwyr, neu pan oeddent yn meddwl amdanyn nhw wrth gymryd rhan mewn gweithgareddau, roedd eu hysbryd yn gwella'n amlwg. Efallai fod hyn amlycaf gyda Shon a'i ganu a Doris gyda'i doliau peg. Wrth iddi gofio gwneud doliau o’r fath fel plentyn ac yna cynllunio i wneud un gyda’i hwyres, mae Doris ar fin creu atgofion newydd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Ar ran Book of You:
E Dilwyn Jones a Debbie Hollingworth
Ar ran Making Sense:
Katie Levy a Ticky Lowe
Cydlynydd Gweithgareddau Plas Eleri:
Margaret Hadwin
Y prif gyfranogwyr:
Rhona Crane
Shon Dwyryd (a’i wraig Eirlys yn chwarae’r delyn)
James Hollinshead
Doris Roberts
A llawer i un arall mewn amrywiol ffyrdd. Diolch i chi gyd!